Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 29 Mawrth 2022
Amser:
09.00 -
09.16
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
David Rees AS, Dirprwy Lywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Anfonodd y Llywydd ei hymddiheuriadau a chafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd yn ei lle.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Yn dilyn trafodaeth o fewn grŵp Plaid Cymru, gofynnodd Sian Gwenllian i'r Pwyllgor Busnes ddychwelyd at y mater o Aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ar 18 Mai, y cytunwyd arno yn y cyfarfod blaenorol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod ymhellach yr egwyddor o ganiatáu i aelodau pwyllgorau adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar er mwyn teithio ar gyfer busnes y pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
o Rheoliadau Deddf Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Dirprwy Lywydd fod amseriad y Cwestiynau i’r Prif Weinidog wedi'i newid oherwydd bod y Prif Weinidog yn mynd i Wasanaeth Diolchgarwch i’r Tywysog Philip yn Llundain. Bydd yn digwydd fel eitem 2 yn dilyn y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Dydd Mercher
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ateb cwestiynau llafar ar ran y Gweinidog Newid Hinsawdd.
Nododd y Pwyllgor Busnes gais gan Blaid Cymru i newid ei haelod ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o Heledd Fychan i Peredur Owen Griffiths. Dywedodd Darren Millar y gallai'r grŵp Ceidwadol hefyd wneud cais i newid ei aelodaeth o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar yr un pryd ac y byddai hyn yn cael ei gadarnhau y tu allan i'r cyfarfod.
Felly, tynnodd y Dirprwy Lywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod yfory:
Gofynnodd y Dirprwy Lywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau y disgwylir iddynt, fel y cytunwyd yr wythnos diwethaf, barhau i wisgo gorchuddion wyneb yn y Siambr yr wythnos hon, ac eithrio wrth siarad. Bydd nodyn hefyd yn cael ei ddosbarthu i bob Aelod.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 26 Ebrill 2022 -
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 11 Mai 2022 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
Nododd y Pwyllgor Busnes ddyddiadau dros dro ar gyfer Dadleuon Aelodau a Chynigion Deddfwriaethol yr Aelodau ar gyfer tymor yr haf.
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd:
5 Amserlen y Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Nododd y Pwyllgor Busnes fwriad y Pwyllgor i gynnal ei gyfarfod ychwanegol yr wythnos hon yn gyhoeddus yn hytrach na'i gais blaenorol i gwrdd yn breifat.